Cyllid i ariannu dyledion

Ar agor ar gyfer ceisiadau

Decorative image banner

English Language Version of this content

Cyllid i Ariannu Dyledion £100,000 - £2 filiwn

Wrth i fusnesau bach dyfu, yn aml mae angen chwistrelliad o gyfalaf arnynt i’w cynorthwyo i symud i’r lefel nesaf. Gallai’r Gronfa Buddsoddi i Gymru helpu perchnogion busnesau bach i gyflawni uchelgeisiau eu busnes, gan gynnwys:

  • Prydlesu eiddo masnachol newydd
  • Cyflogi tîm newydd
  • Ariannu costau marchnata
  • Prynu peiriannau neu offer newydd
  • Lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd

Mae ein hopsiwn cyllid i ariannu dyledion ar gyfer cwmnïau llai sy’n gallu dangos y potensial i dyfu.

Sut i ymgeisio

  1. Ewch i wefan rheolwr y gronfa trwy glicio ar y blwch isod.
  2. Anfonwch ymholiad yn uniongyrchol at reolwr y gronfa.
  3. Bydd rheolwr y gronfa’n cysylltu â chi i drafod eich gofynion o ran cyllid.
  4. Gall rheolwr y gronfa ofyn am ragor o fanylion a chais ffurfiol neu gyflwyniad hefyd.
  5. Bydd rheolwr y gronfa’n gwerthuso’ch cais ac yn gwneud penderfyniad ar y buddsoddiad.

Oes cwestiwn gennych? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

Y Cronfeydd sydd ar Gael

Cofrestru ar gyfer ein Newyddlen

Cofrestrwch i dderbyn ein negeseuon e-bost i fod gyda’r cyntaf i glywed y newyddion diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Gymru. Cewch ddewis clywed y newyddion am eich ardal neu gael diweddariadau o bob rhan o’r DU.

Cofrestrwch heddiw