Ar agor ar gyfer ceisiadau
English Language Version of this content
Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n ymrwymo £130 miliwn o gyllid newydd i Gymru.
Nod y gronfa yw sicrhau twf economaidd cynaliadwy trwy gynorthwyo arloesedd a chreu cyfleoedd lleol ar gyfer busnesau newydd ac sydd ar dwf ar draws Cymru.
Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda benthyciadau llai o rhwng £25,000 a £100,000, gwerth rhwng £100,000 a £2 filiwn o gyllid i ariannu dyledion, a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn. Mae’r gronfa’n cwmpasu Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol.
Bydd yn cynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid cyfnod ar gyfer busnesau llai ar gyfnod cynnar yn eu datblygiad ar draws Cymru, gan ddarparu cyllid ar gyfer busnesau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl, ac yn helpu i chwalu’r rhwystrau i gael cyllid.
Mae’r gronfa newydd wedi ymgorffori ymwybyddiaeth am ESG yn ei dyluniad, a bydd yn cynorthwyo economi’r DU i bontio i sero net.
Y Cronfeydd sydd ar Gael
Oes cwestiwn gennych? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.
Newyddion Diweddaraf o Gronfa Fuddsoddi Cymru
Press release
Press release
Cronfa Fuddsoddi i Gymru yn y newyddion
Mae Chevler wedi diogelu benthyciad o £100,000 gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru
08 Ionawr 2026
Mae Business News Wales yn nodi bod BCRS Business Loans, un o reolwyr cronfeydd Cronfa Buddsoddi i Gymru y Banc, wedi rhannu gwerth dros £2m mewn benthyciadau ar draws 34 o fusnesau ledled Cymru, gan greu 104 o swyddi ac amddiffyn 189 pellach, a chyflawni mwy na £10.261 miliwn o dwf economaidd ar draws y wlad.
Dysgwch fwy Mae Chevler wedi diogelu benthyciad o £100,000 gan y Gronfa Buddsoddi i GymruCwmni goleuadau LED o Gaerdydd yn diogelu gwerth £2.5m o fuddsoddiad ecwiti preifat i ehangu’n rhyngwladol
06 Ionawr 2026
Mae Nisien.AI, cwmni newydd arloesol ym maes deallusrwydd artiffisial o Gymru sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, wedi derbyn buddsoddiad gan Gronfa Buddsoddi Cymru o £130m gan Fanc Busnes Prydain drwy Foresight Group a Banc Datblygu Cymru, mewn buddsoddiad ar y cyd
Dysgwch fwy Cwmni goleuadau LED o Gaerdydd yn diogelu gwerth £2.5m o fuddsoddiad ecwiti preifat i ehangu’n rhyngwladolBe Business Fit Ltd â’i olygon ar ehangu wrth iddo ddiogelu cyllid twf gan BCRS Business Loans - Always Finance News
05 Ionawr 2026
Mae’r cwmni ymgynghorol, Business Fit Ltd o Gaerdydd yn ehangu ar garlam gyda chymorth benthyciad gwerth £25k gan bartner cyflawni IFW, BCRS Business Loans. Mae’r cwmni o ymgynghorwyr AD wedi dod yn bartner dibynadwy i BBaCh ar draws Cymru, gan gynorthwyo busnesau ag ymchwiliadau AD annibynnol, wrth helpu rheolwyr ac arweinwyr i ddatblygu’n bersonol trwy hyfforddiant proffesiynol hefyd.
Dysgwch fwy Be Business Fit Ltd â’i olygon ar ehangu wrth iddo ddiogelu cyllid twf gan BCRS Business Loans - Always Finance NewsCofrestru ar gyfer ein Newyddlen
Cofrestrwch i dderbyn ein negeseuon e-bost i fod gyda’r cyntaf i glywed y newyddion diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Gymru. Cewch ddewis clywed y newyddion am eich ardal neu gael diweddariadau o bob rhan o’r DU.
Cofrestrwch heddiw