Y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n taro carreg filltir £10m o fuddsoddiad wrth ddathlu ei phen-blwydd yn un oed
Press release
English version of this content
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130m, a gynorthwyir gan Fanc Busnes Prydain, wedi taro £10m o fuddsoddiadau o Gaerffili i Lannau Dyfrdwy ac o Abertawe i Fangor.
Yr wythnos hon, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) gwerth £130m wedi taro ei charreg filltir fawr gyntaf ar ôl buddsoddi a benthyca £10m i fusnesau llai yng Nghymru. Daw’r cyhoeddiad blwyddyn ar ôl lansio’r IFW ym mis Tachwedd 2023.
Ymysg y busnesau Cymreig i elwa ar y Gronfa Buddsoddi i Gymru, mae buddsoddiad ecwiti o £650,000 yn EverTrek, cwmni teithio ‘antur caled’ o Gaerffili. Mae’r brand teithio ar lein yma sydd ar dwf yn cyfrannu at segment antur caled £1.7bn marchnad twristiaeth antur £10.7bn y DU. Gwnaed buddsoddiad ecwiti o £850,000 mewn cwmni arall yng Nghaerffili hefyd, sef yr arbenigwyr datblygu a gwasanaethau dronau, Drone Evolution.
Mae cytundebau cyllid dyled y Gronfa’n cynnwys buddsoddiad o £500,000 yn y contractwyr sgaffaldio, Palmers Scaffolding ar Lannau Dyfrdwy, cytundeb cyllid dyled o £100,000 i’r darparydd ynni adnewyddadwy, Economy Energy Group, ym Mharc Menter Abertawe, y ddau trwy FW Capital; a buddsoddiad o £100,000 yn Snowdon Timber Products ym Mangor trwy BCRS.
Cronfa Buddsoddi i Gymru’r Banc yw’r gronfa buddsoddi gyntaf ar gyfer busnesau bach yng Nghymru a gynhelir yn llwyr gan Llywodraeth y DU, ac mae’n helpu i gynyddu ac amrywio’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael trwy ddarparu opsiynau ar gyfer cwmnïau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl. Bwriad y cyllid yw helpu busnesau â gweithgareddau fel ehangu, arloesi gyda chynhyrchion neu wasanaethau, cyflwyno prosesau newydd, datblygu sgiliau ac offer cyfalaf.
Penodwyd tri chwmni rheoli cronfeydd i reoli’r gronfa. BCRS Business Loans sy’n rheoli benthyciadau llai y gronfa (£25,000 i £100,000), FW Capital sy’n gyfrifol am fenthyciadau mwy (£100,000 i £2 filiwn), a Foresight sy’n rheoli’r cytundebau ecwiti (hyd at £5 miliwn).
Wrth lansio’r Gronfa Buddsoddi i Gymru flwyddyn yn ôl i’r wythnos hon, ein huchelgais oedd helpu i fynd i’r afael â’r sialensiau sydd ynghlwm wrth gyrchu cyllid ar draws tirwedd BBaCh Cymru, a darparu’r cyfle i fusnesau arloesol ac uchelgeisiol lewyrchu a chyflawni eu llawn botensial.
Mae’r garreg filltir yma o £10m, a phen-blwydd cyntaf y Gronfa Buddsoddi i Gymru yn dangos sut mae’r gronfa’n codi momentwm, gan ganiatáu i ni dynnu sylw at rai o’r buddsoddiadau a wnaed mewn busnesau yng Nghymru hyd yn hyn. Ond rydyn ni’n parhau i edrych tua’r dyfodol hefyd, gyda golwg ar ddod o hyd i’r ffordd orau i’r Gronfa weithio dros fusnesau Cymreig llai, a chyfrannu at lwyddiant cynaliadwy parhaus economi Cymru.
- Mark Sterritt Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Banc Busnes Prydain
Nodiadau i Olygyddion
Am y Gronfa Buddsoddi i Gymru
Dan adain Banc Busnes Prydain, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) yn darparu cymysgedd o gyllid dyled ac ecwiti. Bydd IFW yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, cyllid dyled rhwng £100k a £2m, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’n gweithio ochr yn ochr ag amryw o sefydliadau cymorth ac ariannu Llywodraeth Cymru yn ogystal â chanolwyr lleol fel cyfrifwyr, rheolwyr cronfeydd a banciau, i gynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.
Mae’r cronfeydd y mae IFW yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau â gweithrediadau materol, neu’r rhai sy’n cynllunio i agor gweithrediadau materol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain ymysg eraill.
Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, un o is-gwmnïau British Business Bank Plc, mae’r Banc yn fanc datblygu sy’n llwyr eiddo i Lywodraeth EF. Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc dan awdurdodaeth nac wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Quick links
Latest news
-
Read more about Deep-clean submersible business secures first investment from Northern Powerhouse Investment Fund II in Cumbria Press release
09 December 2024 -
Read more about Praetura Ventures and NPIF II announce £1.4m investment into northern tech and life sciences startups following inaugural PraeSeed cohort investing programme Press release
09 December 2024 -
Read more about Lancashire-based university spinout CCI Photonics among first companies to receive investment from new Praetura Ventures and NPIF II startup programme Press release
09 December 2024