Y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cyhoeddi ei gytundeb cyllid dyled cyntaf

Press release 19 February 2024

English version of this content

Y Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130m yn cyhoeddi ei gytundeb cyllid dyled cyntaf gyda Palmers, cwmni sgaffaldiau hynaf y DU.

Mae Banc Busnes Prydain yn cyhoeddi ei gytundeb cyllid dyled cyntaf o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130m, ar ffurf buddsoddiad o £500,000 o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru o dan reolaeth y rheolwyr cronfeydd FW Capital.

Y buddsoddiad yn y cwmni contractau sgaffaldio blaenllaw, Palmers Scaffolding o Lannau Dyfrdwy, yw’r cytundeb ariannu dyled cyntaf i gael ei gyhoeddi ar ran y Gronfa Buddsoddi i Gymru, a hynny llai na mis ar ôl i’r Banc gadarnhau ei fod wedi cwblhau cytundeb ecwiti cyntaf y Gronfa, a chwta thri mis ar ôl lansio’r Gronfa ar 23 Tachwedd 2023.

Lansiodd Banc Busnes Prydain, a gynorthwyir gan y llywodraeth, y Gronfa Buddsoddi i Gymru er mwyn hybu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru.

Palmers Scaffolding o Lannau Dyfrdwy yw contractwr sgaffaldio hynaf y DU. Cafodd ei sefydlu nôl ym 1880 gan Edwin Palmer, a’i gorffori ym 1912. Mae Palmers yn cyflogi gweithlu medrus a phrofiadol o dros 190 o weithwyr, ac mae’n gyson ymysg 10 uchaf ’contractwyr sgaffaldior DU. Mae trosiant y cwmni wedi cynyddu’n gadarn dros y blynyddoedd diwethaf o £12m yn 2020 i £23m yn 2023, a disgwylir iddo daro £31m yn 2024.

Mae Palmers wrthi’n gweithio ar brosiect Gorsaf Ynni Niwclear Hinkley Point C yn ne-orllewin Lloegr ar ran amrywiaeth o gleientiaid ar hyn o bryd, ac mae’n cyflenwi amrywiaeth o gleientiaid diwydiannol blaenllaw eraill yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, o’i leoliad yn Teesside. Mae ganddo gontractau allweddol ym meysydd awyr Gatwick a Heathrow, a chontractau adeiladu ar gyfer y Major Contractors Group ar draws canol Llundain.

Mae gan Palmers swyddfeydd rhanbarthol yng ngogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, a de-ddwyrain a de-orllewin Lloegr, ac mae ei Bencadlys yn Sir y Fflint.

Dywedodd Michael Carr, Prif Weithredwr Palmers:

Bu proses gymeradwyo FW cyn derbyn ein cais yn drylwyr iawn. Gwnaeth eu dull o weithredu argraff fawr arnom ni.

Prosiectau seilwaith graddfa fawr fel yr un yn Hinkley Point yw corff ac enaid ein gwaith, ond roedd angen llawer o gyfalaf gweithio arnom i dynnu popeth roedd ei angen at ei gilydd ar ôl i beirianwyr sifil Cyd-fenter BYLOR ein tynnu ni i mewn i chwarae rhan yn y gwaith adeiladu.

Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael y cymorth angenrheidiol gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru ac FW Capital, sydd wedi golygu ein bod ni’n gallu cychwyn ar y prosiect ar garlam, a rhannu ein harbenigedd ag un o’r prosiectau mwyaf o’i fath sydd ar droed yn y DU ar hyn o bryd.

Caiff y benthyciad ei ddefnyddio at ein gofynion ariannu llif arian a gwariant cyfalaf. Rydyn ni wrthi nawr yn ehangu ein hôl troed yn y gogledd-orllewin ac yn cyllidebu ar gyfer trosiant o £31M yn 2024.

Dywedodd Mark Sterritt, Cyfarwyddwr Cronfeydd Buddsoddi y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau gyda Banc Busnes Prydain:

Sefydlwyd Cronfa Buddsoddi i Gymru’r Banc er mwyn cynorthwyo busnesau llai â’u huchelgeisiau ar gyfer twf. Mae’r gronfa’n cynorthwyo cwmnïau blaengar sy’n esblygu fel Palmers, sy’n gwmni hirsefydlog, a bydd bellach yn defnyddio’i enw da i wireddu twf.

Mae’r Banc Buddsoddi i Gymru ar agor am drafodaethau gyda busnesau twf ar draws Cymru, ac mae hi wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn amrywiaeth o strategaethau ehangu.

Dywedodd Rhodri Evans, Rheolwr Cronfeydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru yn FW Capital:

Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi gallu gweithio gyda Palmers Scaffolding a’u cefnogi â’r buddsoddiad oedd ei angen arnynt trwy’r Gronfa Buddsoddi i Gymru.

Brand Cymreig cadarn ydyn nhw, mae eu blynyddoedd maith o wasanaeth a phrofiad yn y sector yn gydnabyddedig ar draws y DU, ac mae gwybodaeth helaeth Michael a’i dîm wedi rhoi hyder mawr i ni yn ein buddsoddiad.

Am ragor o fanylion y Gronfa Buddsoddi i Gymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am y Gronfa Buddsoddi i Gymru

Dan adain Banc Busnes Prydain, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) yn darparu cymysgedd o gyllid dyled ac ecwiti. Bydd IFW yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, cyllid dyled rhwng £100k a £2m, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’n gweithio ochr yn ochr ag amryw o sefydliadau cymorth ac ariannu Llywodraeth Cymru yn ogystal â chanolwyr lleol fel cyfrifwyr, rheolwyr cronfeydd a banciau, i gynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.

Mae’r cronfeydd y mae IFW yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau â gweithrediadau materol, neu’r rhai sy’n cynllunio i agor gweithrediadau materol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain ymysg eraill.

Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, un o is-gwmnïau British Business Bank Plc, mae’r Banc yn fanc datblygu sy’n llwyr eiddo i Lywodraeth EF. Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc dan awdurdodaeth nac yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

investmentfundforwales.co.uk

Am FW Capital

Cwmni rheoli cronfeydd yw FW Capital sy’n rheoli cronfeydd gwerth dros £315.8m yn y DU ar hyn o bryd.

FW Capital sy’n rheoli cronfa £30m IFW – FW Capital Debt Finance, sy’n rhan o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru £130m, ar ran Banc Busnes Prydain. Mae cyllid gwerth rhwng £100,000 i £2 filiwn ar gael i fusnesau ar draws Cymru.

Mae FW Capital yn rhan o’r DBW Group, un o’r buddsoddwyr mwyaf mewn BBaCh yn y DU. Mae’r DBW Group yn rheoli cronfeydd gwerth dros £1.9 biliwn. 

developmentbank.wales