Ar agor ar gyfer ceisiadau

English Language Version of this content
Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n ymrwymo £130 miliwn o gyllid newydd i Gymru.
Nod y gronfa yw sicrhau twf economaidd cynaliadwy trwy gynorthwyo arloesedd a chreu cyfleoedd lleol ar gyfer busnesau newydd ac sydd ar dwf ar draws Cymru.
Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda benthyciadau llai o rhwng £25,000 a £100,000, gwerth rhwng £100,000 a £2 filiwn o gyllid i ariannu dyledion, a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn. Mae’r gronfa’n cwmpasu Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol.
Bydd yn cynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid cyfnod ar gyfer busnesau llai ar gyfnod cynnar yn eu datblygiad ar draws Cymru, gan ddarparu cyllid ar gyfer busnesau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl, ac yn helpu i chwalu’r rhwystrau i gael cyllid.
Mae’r gronfa newydd wedi ymgorffori ymwybyddiaeth am ESG yn ei dyluniad, a bydd yn cynorthwyo economi’r DU i bontio i sero net.
Y Cronfeydd sydd ar Gael
Oes cwestiwn gennych? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.
Y Newyddion Diweddaraf gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru
Press release

Press release
Y Newyddion Diweddaraf gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru
Nisien.AI i gyflymu ei genhadaeth i wneud y byd yn lle mwy diogel ar ôl cael cyllid o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru
Mae Nisien.AI, cwmni newydd arloesol ym maes deallusrwydd artiffisial o Gymru sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, wedi derbyn buddsoddiad gan Gronfa Buddsoddi Cymru o £130m gan Fanc Busnes Prydain drwy Foresight Group a Banc Datblygu Cymru, mewn buddsoddiad ar y cyd
Learn more About Mae Nisien.AI, cwmni newydd arloesol ym maes deallusrwydd aCanolfan Chwarae, Sgiliau ‘yn agor trydydd safle ar ôl cefnogaeth Benthyciadau Busnes BCRS
Mae’r safle newydd, ar Ystâd Ddiwydiannol Dafen Llanelli, yn dynodi’r mwyaf o’r canolfannau chwarae yn y rhanbarth a agorodd ei ddrysau fis diwethaf ar ôl derbyn pecyn cyllid gwerth £100,000 gan Fenthyciadau Busnes BCRS’, drwy Gronfa Fuddsoddi i Gymru £130m, Banc Busnes Prydain.
Learn more About Canolfan Chwarae, Sgiliau ‘yn agorMae FW Capital wedi buddsoddi dros £6 miliwn o Gronfa Fuddsoddi Banc Busnes Prydain i Gymru mewn mwy nag 20 o gytundebau cychwynnol
Yn y flwyddyn gyntaf ers lansio Cronfa Fuddsoddi Cymru ar ddiwedd 2023, mae FW Capital – un o dri Rheolwr Cronfa a benodwyd – wedi cefnogi mwy nag 20 o fusnesau, gyda symiau buddsoddi cyllid dyled yn amrywio o £100,000 i £500,000.
Learn more About Mae FW CapitalCofrestru ar gyfer ein Newyddlen
Cofrestrwch i dderbyn ein negeseuon e-bost i fod gyda’r cyntaf i glywed y newyddion diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Gymru. Cewch ddewis clywed y newyddion am eich ardal neu gael diweddariadau o bob rhan o’r DU.
Cofrestrwch heddiw