Cyllid ecwiti

Ar agor ar gyfer ceisiadau

Decorative image banner

English Language Version of this content

Cyllid Ecwiti hyd at £5 miliwn

Mae cyllid ecwiti yn adnodd pwysig i fusnesau â’r potensial am dwf mawr.

Gall cyllid ecwiti fod yn arbennig o bwysig i gwmnïau newydd ac arloesol sydd â’r potensial am dwf uchel am y gall ddarparu cymorth tymor hir i ariannu twf y busnes i gynhyrchu refeniw ac elw. Mewn termau syml, mae cyllid ecwiti yn codi cyfalaf trwy werthu cyfrannau mewn busnes.

Mae gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru ddiddordeb arbennig mewn cynorthwyo buddsoddiadau ecwiti, gan helpu’r genedl i feithrin marchnad cyfalaf menter egnïol a chynaliadwy. Gallai buddsoddiad ar sail ecwiti fod yr union beth i chi os ydych chi’n rhedeg busnes sefydlog â chynlluniau uchelgeisiol, neu os ydych chi’n gwmni mawr newydd â photensial am dwf uchel.

Sut i ymgeisio

  1. Ewch i wefan rheolwr y gronfa trwy glicio ar y blwch isod.
  2. Anfonwch ymholiad yn uniongyrchol at reolwr y gronfa.
  3. Bydd rheolwr y gronfa’n cysylltu â chi i drafod eich gofynion o ran cyllid.
  4. Gall rheolwr y gronfa ofyn am ragor o fanylion a chais ffurfiol neu gyflwyniad hefyd.
  5. Bydd rheolwr y gronfa’n gwerthuso’ch cais ac yn gwneud penderfyniad ar y buddsoddiad.

Oes cwestiwn gennych? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

Y Cronfeydd sydd ar Gael

Cofrestru ar gyfer ein Newyddlen

Cofrestrwch i dderbyn ein negeseuon e-bost i fod gyda’r cyntaf i glywed y newyddion diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Gymru. Cewch ddewis clywed y newyddion am eich ardal neu gael diweddariadau o bob rhan o’r DU.

Cofrestrwch heddiw