Y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cyhoeddi ei gytundeb mawr cyntaf

Press release 31 January 2024

English language version

Mae Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi ei gytundeb ecwiti mawr cyntaf o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130m, gyda buddsoddiad o £650,000 o’r gronfa Cyllid Ecwiti, sy’n cael ei reoli gan Foresight Group (“Foresight”) y rheolwyr cronfa a benodwyd i reoli’r gronfa, yn y cwmni teithio ‘antur caled’ EverTrek.

Mae’r cytundeb yn cynnwys cyllid cyfatebol o £650,000 a ddarparwyd gan Foresight trwy Gronfa Fuddsoddi Injan Canolbarth Lloegr (“MEIF”); sy’n cael ei weithredu gan Fanc Busnes Prydain. Penodwyd Foresight yn rheolwr cronfa ar gyfer MEIF yn 2018.

Y buddsoddiad yn EverTrek yw’r cytundeb cyntaf i gael ei gyhoeddi ar ran y Gronfa, a daw hyn cwta dau fis ar ôl lansio’r Gronfa ar 23 Tachwedd 2023.

Lansiodd Banc Busnes Prydain, a gynorthwyir gan y llywodraeth, y Gronfa Buddsoddi i Gymru ddiwedd Tachwedd 2023 er mwyn hybu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru.

Brand teithio ar lein sydd ar dwf yw Evertrek o Gaerffili (a Henffordd). Mae’n darparu ar gyfer segment antur caled £1.7bn marchnad twristiaeth antur £10.7bn y DU. Fel cwmni gorau’r DU am deithiau ac ymdeithiau cerdded yn ôl pleidlais Gwobrau Teithio Prydain, mae’r cwmni’n cynnig amrywiaeth o ymdeithiau cerdded yn uchelfannau’r byd trwy bartneriaid allanol ar hyn o bryd, gyda’r ymdeithiau premiwm yn cynnwys Everest yn Nepal, Kilimanjaro yn Tanzania, a Machu Picchu ym Mheriw.

Yn rhan o’r pecyn buddsoddi, caiff tîm EverTrek gymorth arbenigydd yn y sector, Gordon Mathie, sydd wedi ei benodi’n Gadeirydd, yn ogystal â chymorth pellach gan y Firebird Collective ehangach, sef grŵp ymgynghorol sy’n arbenigo yn y sector teithio ar sail profiad. Gordon oedd un o gyd-sylfaenwyr LoveTEFL. Arweiniodd y broses o brynu i-to-i gan TUI yn 2015 a threfnodd MBO yn 2020, cyn trefnu ymadawiad llwyddiannus y ddwy fenter i Learn Direct yn 2021.

Cylch buddsoddi cyntaf EverTrek yw hwn ac mae hi eisoes wedi creu pum swydd fedrus newydd, wrth benodi dau weithiwr marchnata, Cydlynydd Gweithrediadau, Rheolwr Cyllid a Chyfarwyddwr Cyllid, yn ogystal â sefydlu swyddfa fechan yn Henffordd.

Caiff y buddsoddiad ei ddefnyddio i ehangu’r dewis o brofiadau teithio ar draws y byd hefyd, gan gynnwys Costa Rica, Patagonia, Gwlad yr Ia, Romania a Slofenia. Yn ogystal â’r sector antur caled, bydd y cwmni’n ehangu ei ddarpariaeth o brofiadau antur meddal, er mwyn cyrchu marchnadoedd twristiaeth mwy hygyrch.

Yn gweithredu o Ganolfan Arloesi Menter Cymru yng Nghaerffili, sefydlwyd EverTrek gan y Prif Weithredwr Andy Moore yn 2017 yn dilyn taith i Nepal, a gyda thîm rheoli’r cwmni, Dave Carpenter a Jen Hall, mae EverTrek wedi ennill ei blwyf fel grym cynyddol yn y farchnad twristiaeth antur.

Gyda chefnogaeth y buddsoddiad newydd yma, mae’r tri yn anelu at sicrhau trosiant o £2.5m yn 2024, a chynyddu nifer y cwsmeriaid i 3,000 y flwyddyn.

Dywedodd Andy Moore, sylfaenydd a Phrif Weithredwr EverTrek:

Rydyn ni’n hynod o falch o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni hyd yn hyn dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydyn ni wrth ein bodd i ddiogelu’r buddsoddiad yma gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru. Roedd hi’n glir o’n sgyrsiau cyntaf â Foresight ein bod ni o’r un anian o ran ein hawydd i ddatgloi potensial llawn EverTrek.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau gweithio gyda’n Cadeirydd newydd, Gordon Mathie, ac yn credu y bydd ei arbenigedd yn y sector yn amhrisiadwy wrth ein cynorthwyo ni i gyflawni mwy fyth o lwyddiant hirdymor. Mae camau nesaf EverTrek yn edrych yn gadarnhaol dros ben ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu diweddariadau pellach.

Dywedodd Ken Cooper, Rheolwr Gyfarwyddwr Atebion Menter Banc Busnes Prydain:

Mae’r buddsoddiad yma yn EverTrek yn garreg filltir bwysig yng Nghronfa Buddsoddi i Gymru y Banc. Sefydlwyd y gronfa i gefnogi cwmnïau arloesol ac uchelgeisiol fel EverTrek, felly rydyn ni’n arbennig o falch o weld y buddsoddiad yma, a fydd yn cefnogi eu cynlluniau i ehangu, yn cael ei gyflawni llai na dau fis ar ôl lansio’r Gronfa. Gall busnesau sy’n tyfu yng Nghymru weld nawr fod y Gronfa Buddsoddi i Gymru wedi cychwyn, a’i bod yn barod i fuddsoddi.

Dywedodd John Cordrey, Pennaeth tîm ecwiti preifat Foresight:

Mae’r cyfle i fuddsoddi yn EverTrek yn fuddsoddiad cyffrous i’r Gronfa Buddsoddi i Gymru yn fuan ar ôl lansio’r gronfa. Brand antur cyffrous, twf uchel, a gwahanol yw EverTrek, ac mae ganddo gwmpas sylweddol i ehangu. Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Andy a thîm EverTrek sy’n frwdfrydig, yn angerddol ac yn wybodus ynghylch y sector.

Mae Foresight wedi buddsoddi £650,000 yn EverTrek trwy Gronfa Fuddsoddi Injan Canolbarth Lloegr – East Midlands Equity Finance, sy’n cael cymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yn rhan o Raglen Twf Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014- 2020 a Banc Buddsoddi Ewrop.

Am ragor o fanylion investmentfundwales.co.uk.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â:

Lauren Tunnicliffe Senior Manager, Communications and Marketing, British Business Bank [email protected]

Nodiadau i olygyddion

Am y Gronfa Buddsoddi i Gymru

Dan adain Banc Busnes Prydain, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) yn darparu cymysgedd o gyllid i ariannu dyled ac ecwiti. Bydd IFW yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, cyllid dyled rhwng £100k a £2m, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’n gweithio ochr yn ochr â’r amryw o sefydliadau cymorth ac ariannu gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chanolwyr lleol fel cyfrifwyr, rheolwyr cronfeydd a banciau, i gynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.

Mae’r cronfeydd y mae IFW yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau â gweithrediadau materol, neu’r rhai sy’n cynllunio i agor gweithrediadau materol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain ymysg eraill.

Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, un o is-gwmnïau British Business Bank Plc, mae’r Banc yn fanc datblygu sy’n llwyr eiddo i Lywodraeth EF. Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc dan awdurdodaeth nac wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

investmentfundwales.co.uk

Am Foresight Private Equity

Am bron i bedwar degawd a thrwy nifer o gylchoedd economaidd, mae Foresight wedi gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau sydd ar dwf i gyflawni eu huchelgeisiau, caniatáu i economïau lleol lewyrchu, a chreu’r swyddi cynaliadwy o ansawdd a fydd yn pweru economi yfory.

Ar draws y DU ac Iwerddon, mae adran Ecwiti Preifat Foresight yn cynorthwyo cwmnïau â buddsoddiadau o hyd at £10 miliwn. Mae adran Cyfalaf Menter Foresight yn buddsoddi yn y cwmnïau mwyaf tarfol, sy’n cael eu harwain gan yr entrepreneuriaid mwyaf cyffrous ar draws meysydd technoleg ddwfn, meddalwedd menter a thechnolegau arloesol. Mae ei dîm Twf a Phryniant yn buddsoddi hyd at £10 miliwn i gynorthwyo sylfaenwyr a thimau rheoli gyda’u huchelgeisiau o ran twf, neu er mwyn helpu i ryddhau ecwiti. Ac mae ei dîm Credyd Preifat yn darparu cyfalaf dyled ar gyfer busnesau cyllid amgen sy’n darparu atebion ariannu pwrpasol ar gyfer sectorau na all benthycwyr traddodiadol eu cynorthwyo.

Mewn lleoliadau ar draws y DU, Iwerddon, UDA, UAE ac Israel, mae tîm Ecwiti Preifat Foresight yn cyfuno arbenigedd traws-sectoraidd, cwmpas rhyngwladol a chysylltiadau lleol a byd-eang i ddarparu dirnadaeth, arweiniad a chysylltiadau gweithredol i’r cwmnïau y mae’n eu cefnogi.

Am Foresight Group Holdings Limited

Sefydlwyd Foresight Group ym 1984 ac mae’n rheolwyr buddsoddiadau seilwaith a buddsoddiadau ecwiti preifat rhestredig blaengar. Gyda ffocws hirsefydlog ar strategaethau ESG ac sy’n seiliedig ar gynaliadwyedd, ei nod yw darparu enillion deniadol i’w fuddsoddwyr sefydliadol a phreifat o farchnadoedd preifat sy’n anodd eu cyrchu. Mae Foresight yn rheoli mwy na 400 o asedau seilwaith gyda ffocws ar asedau ynni solar a gwynt ar y tir, bioynni a gwastraff, yn ogystal â phrosiectau sy’n hwyluso ynni adnewyddadwy, atebion rheoli effeithlonrwydd ynni, prosiectau seilwaith cymdeithasol a chraidd, ac asedau coedwigaeth cynaliadwy. Mae ei dîm ecwiti preifat yn rheoli unarddeg cronfa fuddsoddi â ffocws rhanbarthol ar draws y DU, a chronfa effaith BBaCh sy’n cynorthwyo BBaCh yn Iwerddon. Mae’r tîm yn adolygu dros 3,000 o gynlluniau busnes bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd mae’n cynorthwyo dros 250 o fuddsoddiadau mewn BBaCh. Mae Foresight Capital Management yn rheoli pedair strategaeth ar draws saith cyfrwng buddsoddi.

Mae Foresight yn gweithredu mewn wyth gwlad ar draws Ewrop, Awstralia a’r Unol Daleithiau gydag AUM o £12.4 biliwn*. Rhestrwyd Foresight Group Holdings Limited ar Brif Farchnad Cyfnewidfa Stoc Llundain yn Chwefror 2021, ac mae’n rhan o fynegai’r FTSE 250. 

foresightgroup.eu/shareholders

*Ar sail AUM heb ei archwilio ar 31 Rhagfyr 2023.

Am Gronfa Fuddsoddi Injan Canolbarth Lloegr (MEIF)

Mae Cronfa Fuddsoddi Injan Canolbarth Lloegr, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn buddsoddi mewn Cyllid Dyled, Benthyciadau Busnes Bach, cronfeydd Profi Cysyniad a Chyllid Ecwiti, sy’n amrywio rhwng £25,000 a £2m, yn benodol er mwyn helpu busnesau bach a chanolig eu maint i ddiogelu’r cyllid sydd ei angen arnynt ar gyfer twf a datblygiad.

British Business Financial Services Limited, sy’n llwyr eiddo i Fanc Busnes Prydain, banc datblygu economaidd cenedlaethol y DU, sy’n gweithredu Cronfa Fuddsoddi Injan Canolbarth Lloegr. Sefydlwyd y gronfa ym mis Tachwedd 2014, a’i chenhadaeth yw gwneud i farchnadoedd cyllid ar gyfer busnesau llai weithio’n fwy effeithiol, gan ganiatáu i’r busnesau hynny lewyrchu, tyfu a meithrin gweithgarwch economaidd yn y DU.

Cynorthwyir Cronfa Fuddsoddi Injan Canolbarth Lloegr gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Banc Buddsoddi Ewrop, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a British Business Finance Limited, un o gwmnïau grŵp Banc Busnes Prydain.

Mae MEIF yn cwmpasu’r ardaloedd PCLl canlynol: Yr Ardal Ddu, Coventry a Sir Warwick, Birmingham Fwyaf a Solihull, Stoke-on-Trent a Sir Stafford, y Gororau a Sir Gaerwrangon yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr; a Derby, Sir Derby, Nottingham a Sir Nottingham (D2N2), Sir Lincoln Fwyaf, Caer-lŷr a Sir Gaer-lŷr, a De-ddwyrain Canolbarth Lloegr yn Nwyrain a De-ddwyrain Canolbarth Lloegr.

Mae’r prosiect yma’n derbyn hyd at £78,550,000 o gyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Lloegr yn rhan o Raglen Twf Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop 2014-2020. Bydd y rhaglen yn parhau i wario hyd ddiwedd 2023.

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yw Awdurdod Rheoli Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Sefydlwyd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n helpu ardaloedd lleol i sbarduno eu datblygiad economaidd trwy fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cynorthwyo arloesi a busnes, yn creu swyddi ac yn adfywio cymunedau lleol. Am ragor o fanylion ewch i: www.gov.uk/european-growth-funding.

Mae’r Llywodraeth wedi gwarantu’r holl gyllid a ddyrannwyd trwy raglenni’r UE hyd ddiwedd 2020.

Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn darparu £122,500,000 i gynorthwyo Cronfa Fuddsoddi Injan Canolbarth Lloegr. Mae hyn yn dilyn cefnogaeth i Bwerdy Gogledd Lloegr yn 2017 a chefnogaeth i’r Gronfa newydd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Lloegr. Am fanylion pellach ewch i www.eib.org

Mae’r cronfeydd y mae Cronfa Fuddsoddi Injan Canolbarth Lloegr yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau a gweithrediadau materol yn, neu sy’n bwriadu cychwyn gweithrediadau materol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Dwyrain a De-ddwyrain Canolbarth Lloegr.