Lansiad Cronfa Buddsoddi i Gymru’n rhoi hwb gwerth £130m i fusnesau bach

Press release 23 November 2023

English Language Version of this content

Mae Banc Busnes Prydain yn lansio ei Gronfa Buddsoddi newydd £130M i Gymru heddiw (23 Tachwedd), gan agor y drws ar gyllid ychwanegol i helpu busnesau llai i ffynnu a llewyrchu.

Bydd y gronfa’n gyrru twf economaidd cynaliadwy trwy gynorthwyo busnesau newydd a’r rhai sydd ar dwf ar draws Cymru gyfan gan ddefnyddio’r strategaethau buddsoddi sydd orau i ddiwallu anghenion y cwmnïau unigol o dan sylw. Mae’n cynnwys amrywiaeth o opsiynau ariannu rhwng £25,000 a £2 filiwn, a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig i gychwyn, ehangu neu aros ar y blaen.

Y Gronfa Buddsoddi i Gymru fydd y gronfa fuddsoddi gyntaf ar gyfer busnesau bach yng Nghymru i gael ei chynnal yn llwyr gan Lywodraeth y DU, a’r gobaith yw y bydd yn cynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael, trwy gynnig opsiynau i gwmnïau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall. Bwriad y cyllid yw helpu busnesau gyda gweithgareddau, gan gynnwys ehangu, arloesi gyda chynhyrchion neu wasanaethau, cyflwyno prosesau newydd, datblygu sgiliau neu brynu offer cyfalaf.

Penodwyd tri rheolwr cronfeydd i reoli’r gronfa. BCRS Business Loans fydd yn rheoli rhan benthyciadau llai’r gronfa (£25,000 i £100,000), FW Capital fydd yn gyfrifol am y benthyciadau mwy (£100,000 i £2 filiwn), a Foresight fydd yn rheoli’r buddsoddiadau ecwiti (hyd at £5 miliwn).

Dywedodd Louis Taylor, Prif Weithredwr Banc Busnes Prydain:

Mae Cymru’n genedl o fusnesau bach arloesol. Mae ar y busnesau llai yma, y rhai sydd ar dwf a’r rhai mwy sefydlog angen cyllid cychwynnol, neu gyllid pellach, er mwyn lansio, cynnal momentwm, neu ddatblygu hyd eithaf eu potensial.

Nod y gronfa, sydd wedi ei dylunio’n arbennig ar gyfer busnesau Cymru, yw mynd i’r afael â’r sialensiau sydd ynghlwm wrth gyrchu cyllid a darparu cyfleoedd i dalent busnes yng Nghymru dyfu, datblygu a llewyrchu.

Dros y naw mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi cynorthwyo miloedd o fusnesau Cymreig ar draws Cymru drefol a gwledig, ac yn sgil lansio’r Gronfa Buddsoddi i Gymru, gallwn fynd ymhellach ac yn ddyfnach, gan gynorthwyo cannoedd yn fwy wrth iddynt barhau i gyfrannu at lwyddiant cynaliadwy parhaus economi ehangach Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Rydw i wrth fy modd i weld Llywodraeth y DU yn cefnogi’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130m. Cenedl o entrepreneuriaid ydyn ni, a bydd y gronfa hon yn darparu cyllid y mae mawr angen amdano ar gyfer busnesau newydd er mwyn troi eu syniadau gwych yn fusnesau. Bydd y gronfa’n cynorthwyo busnesau llai sydd angen cymorth i ehangu a thyfu hefyd.

Bydd y ffynhonnell cyllid newydd yma’n helpu Llywodraeth y DU i gyflawni ein blaenoriaeth o greu swyddi a gyrru ffyniant yng Nghymru.

Y Gronfa Buddsoddi i Gymru yw’r bedwaredd mewn cyfres o Gronfeydd Buddsoddi i’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau sy’n cael eu lansio gan Fanc Busnes Prydain. Mae’n dilyn lansiad y Gronfa Buddsoddi i Ogledd Iwerddon yn gynharach yn y mis, y Gronfa Buddsoddi i’r Alban ym mis Hydref, a’r Gronfa Buddsoddi i Dde-orllewin Lloegr ym mis Gorffennaf. Ymrwymwyd cyfanswm o £1.6 biliwn i’r cronfeydd newydd er mwyn hybu twf economaidd a chwalu’r rhwystrau i gyrchu cyllid.

Ymysg y busnesau Cymreig sydd eisoes wedi manteisio ar gymorth Banc Busnes Prydain mae’r cwmni tech o Gaerdydd, QLM Technology Ltd, sy’n datblygu technoleg LiDAR (delweddu â laser, datgelu a chwmpasu) nwy cwantwm unigryw ar gyfer methan.

Cafodd QLM gyllid gan British Business Investments, un o is-gwmnïau masnachol Banc Busnes Prydain, trwy gylch ariannu Cynghrair Angel Gwyrdd (GAS) £12 miliwn dan arweiniad y cwmni gwasanaethau ynni, Schlumberger.

GAS yw un o bartneriaid cyflawni’r Rhaglen Angylion Rhanbarthol, yr unig gynghrair buddsoddwyr angel yn y DU ag agenda arbenigol i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Dywedodd Dr Murray Reed, Prif Weithredwr QLM Technology, sydd â chyfleusterau yng Nghaerdydd, Bryste, Paignton a San Francisco:

Mae’r buddsoddiad gan y Banc wedi bod yn drawsnewidiol.

Mae hi wedi caniatáu i ni, fel cwmni bach ag uchelgeisiau mawr iawn, fuddsoddi mewn gweithfeydd gweithgynhyrchu newydd yn EPIC, sef yr Electronics & Photonics Innovation Centre, yn Paington.

Mae hi’n anodd iawn newid canfyddiad a chyfeiriad y diwydiant olew a nwy. Mae hi wedi cymryd amser hir i ni’n barod, a bydd hi’n parhau i gymryd amser, felly mae ar gwmnïau fel ein un ni angen cyfalaf amyneddgar.

Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben felly i Fanc Busnes Prydain a GAS am fod â’r weledigaeth yna ac am weld y gwir botensial a’r strategaeth sydd y tu ôl i’n gwaith.

Mae’r gronfa’n dechrau cael effaith go iawn. Rydyn ni’n adeiladu, yn cynhyrchu ac yn dosbarthu nwyddau. Rydyn ni ond megis dechrau siwrnai hir o ran ein gwaith meintioli nwy, sy’n rhan bwysig o economi gwyrdd neu garbon.

Yn sgil lansiad heddiw, bydd Banc Busnes Prydain yn cynnal cyfres o sioeau pen ffordd i rannu gwybodaeth â phobl sy’n gweithio yn yr ecosystem ariannu busnesau bach, gan gynnwys asiantau menter, ymgynghorwyr, cyfrifwyr ac eraill. Cynhelir y cyntaf o’r rhain yn Llandudno ar 20 Chwefror 2024, a bydd sesiynau pellach yn Aberystwyth, Abertawe a Chasnewydd yn ddiweddarach yr wythnos honno. Cynhelir fersiwn ar-lein o’r sesiwn ar 7 Rhagfyr 2023 am 11.00am.

I gael rhagor o fanylion ac ymgeisio am gyllid, ewch i: investmentfundwales.co.uk

– DIWEDD–

Am fanylion pellach, cysylltwch â:

Lauren Tunnicliffe Senior Manager, Communications and Marketing, British Business Bank [email protected]

Nodiadau i Olygyddion

Am y Gronfa Buddsoddi i Gymru

Dan adain Banc Busnes Prydain, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) yn darparu cymysgedd o gyllid ariannu dyled ac ecwiti. Bydd IFW yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, cyllid dyled rhwng £100k a £2m, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’n gweithio ochr yn ochr â’r amryw o sefydliadau cymorth ac ariannu sydd gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chanolwyr lleol fel cyfrifwyr, rheolwyr cronfeydd a banciau, i gynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.

Mae’r cronfeydd y mae IFW yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau â gweithrediadau materol, neu’r rhai sy’n cynllunio i agor gweithrediadau materol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain ymysg eraill.

Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, un o is-gwmnïau British Business Bank Plc, mae’r Banc yn fanc datblygu sy’n llwyr eiddo i Lywodraeth EF. Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc dan awdurdodaeth nac wedi eu rheoleiddo gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

investmentfundwales.co.uk