Y cwmni data arloesol Assured Insights yn rhoi ei fryd ar dwf yng Nghymru yn sgil buddsoddiad
Press release
Mae'r newyddion yma hefyd ar gael yn Saesneg (English).
- Assured Insights yn derbyn chwistrelliad o arian i ehangu, a fydd yn cynnwys agor swyddfa newydd yn ardal Caerdydd.
- Dyma’r ail fuddsoddiad o gronfa £50 miliwn IFW - Foresight Equity Finance sy’n cael ei rheoli gan Foresight Group yn rhan o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru.
- Banc Busnes Prydain sy’n gweithredu’r Gronfa Buddsoddi i Gymru £130 miliwn, sy’n cynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.
Mae Foresight Group (“Foresight”) – rheolwr ecwiti preifat a buddsoddi mewn seilwaith rhanbarthol blaenllaw - wedi cyhoeddi buddsoddiad ecwiti yn Assured Insights (“y Cwmni”), sef busnes dadansoddeg data tarfol sy’n tyfu’n gyflym, o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (“IFW”).
IFW - Foresight Equity Finance sydd wedi darparu’r buddsoddiad yn y Cwmni. Mae Foresight wedi buddsoddi hefyd trwy’r Midlands Engine Investment Fund (“MEIF”), sy’n cael ei weithredu gan Fanc Busnes Prydain. Penodwyd Foresight yn rheolwr cronfa i MEIF yn 2018. Ynghyd â Foresight, mae sylfaenwyr Assisted Insight wedi cyd-fuddsoddi.
Dyma ail fuddsoddiad Foresight trwy IFW - Foresight Equity Finance. Bydd Assured Insights yn defnyddio’r cyllid i ehangu ei weithrediadau, a fydd yn cynnwys agor swyddfa newydd yn ne Cymru, lle mae’r cwmni’n bwriadu sefydlu ei hyb peirianneg data.
Mae Assured Insights wedi datblygu DataWorks, sy’n cynorthwyo ei gleientiaid i gyfuno data ar wahân o systemau busnes ar un platfform y gallant ymddiried ynddo. Defnyddir y platfform hwn i ddarparu metrics busnes dibynadwy ac effeithiol ar gyfer busnesau, gan ddarparu nifer o wahanol ddefnyddiau fel Deallusrwydd Busnes, Dadansoddeg ac AI.
Mae cwsmeriaid cyfredol y cwmni’n cynnwys cwmnïau gwasanaethau ariannol a grwpiau lletygarwch, gan gynnwys The Ivy Restaurant Group, Sucden Financial a Vernon Building Society. Ar ran ei gleientiaid, mae DataWorks yn cyfuno data ar wahân o’r systemau ffynhonnell i greu un darlun dibynadwy o’u metrics busnes craidd, gan ddarparu darlun sy’n hawdd ei deall.
Mae gan Foresight brofiad cadarn o weithio gyda busnesau sy’n tyfu’n gyflym wrth iddynt ehangu a dod yn fwy proffesiynol. Rydyn ni’n falch o ddewis Foresight fel ein partner ecwiti wrth i ni osod ein golygon ar gyflymu ein siwrnai twf.
Mae Assured Insights wedi darganfod bod y rhan fwyaf o sefydliadau’n eu ffeindio’u hunain mewn sefyllfa lle nad yw eu gallu o ran data’n gyson â’u dyheadau. Mae yna lu o dechnolegau ac atebion sy’n honni eu bod nhw’n helpu gyda hyn, ond mae’r rhain i gyd yn dibynnu ar ddata o ansawdd da.
Mae cyflawni cyflwr o aeddfedrwydd o ran data, lle mae data dibynadwy ar gael i’r busnes cyfan, yn dipyn o sialens i lawer o gwmnïau. Mae DataWorks Assured Insights yn mynd i’r afael â hyn ac yn adeiladu sylfaen gadarn o ddata sy’n angenrheidiol i gynnal unrhyw fusnes modern sy’n hyfedr o ran data. Mae symlrwydd y cynnyrch, y pwynt prisio cystadleuol a’r amser cyflawni cyflym yn golygu bod DataWorks yn ddewis amlwg.
- Jon Singleton Cydsylfaenydd a Phrif Weithredwr Assured Insights
Mae Assured Insights yn fusnes hynod gyffrous sy’n tyfu’n gyflym, ac mae ganddo dîm rheoli uchelgeisiol dros ben. Bydd ei swyddfa newydd yng Nghymru’n cael effaith gadarnhaol ar yr economi trwy greu swyddi medrus. Rydyn ni wrth ein bodd i gael cefnogi Assured Insights, ac yn edrych ymlaen at bartneru â’r tîm ar eu siwrnai twf.
Yn gynyddol, mae busnesau â systemau meddalwedd niferus yn rheoli setiau data cymhleth, ac mae meddalwedd Assured Insights yn dro ar fyd ar gyfer y farchnad hon. Trwy greu’r seilwaith data, a’i gyfuno â dadansoddeg a delweddu, mae’r feddalwedd yn ateb rhagorol o’r dechrau i’r diwedd.
- Steve Galvin Pennaeth IFW – Foresight Equity Finance
Rydyn ni’n falch o weld y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n gweithio’n ymarferol dros fusnesau arloesol fel Assured Insights, sydd wedi ymrwymo i greu gweithlu yng Nghymru trwy agor eu swyddfa newydd yng Nghaerdydd.
Mae eu gweithgarwch yn y farchnad yn hynod, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein cefnogaeth yn eu cynorthwyo wrth iddynt barhau i ehangu.
- Mark Sterritt Cyfarwyddwr Cronfeydd Buddsoddi y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau gyda Banc Busnes Prydain
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) £130 miliwn yn cwmpasu holl ardaloedd Cymru ac yn darparu benthyciadau rhwng £25,000 a £2 filiwn, a buddsoddiadau ecwiti o hyd at £5 miliwn i helpu amrywiaeth o fusnesau bach a chanolig eu maint i gychwyn, tyfu neu aros ar flaen y lleill.
Pwrpas y Gronfa Buddsoddi i Gymru yw gyrru twf economaidd cynaliadwy trwy gynorthwyo arloesedd a chreu cyfleoedd lleol ar gyfer busnesau newydd a’r rhai sydd ar dwf ar draws Cymru. Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau bach Cymru, gan ddarparu cyllid ar gyfer cwmnïau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl, a helpu i chwalu’r rhwystrau i gyrchu cyllid.
Mae Foresight yn buddsoddi mewn cwmnïau addawol sydd ar dwf, gan ddarparu cyllid ecwiti neu ddyled i ddiwallu anghenion sylfaenwyr, timau rheoli a benthycwyr arbenigol, dim ots ar ba gam ar eu siwrnai y maen nhw. Mae Foresight yn gweithio gyda’r cwmnïau sydd ar dwf y mae’n eu cynorthwyo er mwyn caniatáu i’r sylfaenwyr a’r timau rheoli ddatblygu cwmnïau gwydn a llewyrchus sy’n cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau lle maen nhw’n gweithredu.
Nodiadau i Olygyddion
Am Foresight
Sefydlwyd Foresight ym 1984, ac mae’n rheolwr buddsoddiadau blaenllaw ym maes asedau diriaethol a chyfalaf twf, gan weithredu ar draws y DU, Ewrop ac Awstralia.
Gyda degawdau o brofiad, mae Foresight yn agor y drws ar gyfleoedd buddsoddi deniadol i fuddsoddwyr sy’n arwain newid. Mae Foresight yn meithrin ac yn tyfu atebion buddsoddi i hwyluso newid ynni, dadgarboneiddio diwydiant, cynorthwyo adferiad byd natur, a gwireddu potensial economaidd cwmnïau uchelgeisiol.
Yn rhan o’r mynegai FTSE 250, mae strategaethau amrywiol Foresight yn cyfuno sgiliau ariannol a gweithredol er mwyn manteisio i’r eithaf ar werth asedau a dod ag elw deniadol i’r buddsoddwyr. Ategir ei amrywiaeth eang o gronfeydd preifat a chyhoeddus gan amrywiaeth o atebion buddsoddi a ddyluniwyd ar gyfer y farchnad adwerthu.
Mae Foresight yn unedig dros ymrwymiad cyffredin i feithrin dyfodol cynaliadwy a thyfu cwmnïau ac economïau llewyrchus.
Ewch i https://foresight.group am fanylion.
Am y Gronfa Buddsoddi i Gymru
Dan adain Banc Busnes Prydain, mae’r IFW yn darparu cymysgedd o gyllid dyled ac ecwiti. Bydd IFW yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, cyllid dyled rhwng £100k a £2m, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’n gweithio ochr yn ochr â’r ecosystem cyllid ar gyfer busnesau bach yn y rhanbarth, gan gynnwys canolwyr lleol fel cyfrifwyr, rheolwyr cyllidebau a banciau, i gynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.
Mae’r cronfeydd y mae’r IFW yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau â gweithrediadau materol, neu sy’n bwriadu agor gweithrediadau materol ar draws Cymru gyfan.
Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, un o is-gwmnïau British Business Bank Plc, banc datblygu sy’n llwyr eiddo i Lywodraeth EF yw’r Banc.
Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc dan awdurdodaeth nac wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
O ran y buddsoddiad gan NRIL ar lefel is-gronfa, nid yw’r buddsoddiad gan Nations and Regions Investments Limited yn Assured Insights gyfystyr ag unrhyw gymeradwyaeth na gwarant gan Nations and Regions Investments Limited, British Business Bank plc na llywodraeth y Deyrnas Unedig.
O ran y buddsoddiad gan is-gronfeydd IFW ar lefel cwmni’r buddsoddwr, nid yw’r buddsoddiad gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru i Assured Insights gyfystyr â chymeradwyaeth neu warant gan Nations and Regions Investments Limited, British Business Bank plc na llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Quick links
Latest news
-
Read more about Deep-clean submersible business secures first investment from Northern Powerhouse Investment Fund II in Cumbria Press release
09 December 2024 -
Read more about Praetura Ventures and NPIF II announce £1.4m investment into northern tech and life sciences startups following inaugural PraeSeed cohort investing programme Press release
09 December 2024 -
Read more about Lancashire-based university spinout CCI Photonics among first companies to receive investment from new Praetura Ventures and NPIF II startup programme Press release
09 December 2024