Gwerthusiad cynnar yn dangos bod y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n gwella mynediad at gyllid ac yn cynorthwyo twf busnesau ar draws Cymru
Press release
- Yn ôl gwerthusiad annibynnol, mae’r Gronfa’n perfformio’n dda ac yn gweithredu yn ôl y bwriad i bob pwrpas.
- Mae yna dystiolaeth gref fod y gronfa’n mynd i’r afael â bylchau rhanbarthol o ran cyllid ac yn gwella mynediad at gyllid ar gyfer busnesau llai.
- Buddsoddwyd £18.2m trwy’r Gronfa Buddsoddi i Gymru hyd Medi 2025.
- Cyflawnwyd 85 o fuddsoddiadau er budd 79 o BBaCh Cymreig ar draws Cymru
- Cafodd y Gronfa Buddsoddi i Gymru ei gwerthuso yn rhan o asesiad annibynnol o raglen Cronfeydd Buddsoddi’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau £1.6bn ehangach Banc Busnes Prydain.
Mae ‘Adroddiad Asesu Cynnar’ a gyflawnwyd gan gwmni ymchwil annibynnol (SQW Ltd) wedi dangos bod y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n helpu i wella mynediad at gyllid ar gyfer busnesau llai ar draws Cymru, gan gynorthwyo cwmnïau uchelgeisiol i dyfu, arloesi ac ehangu.
Erbyn Medi 2025, roedd y Gronfa Buddsoddi i Gymru wedi darparu £18.2m o fuddsoddiad trwy 85 o fuddsoddiadau mewn 79 BBaCh Cymreig, gan helpu i fynd i’r afael â bylchau lleol mewn cyllid, a chynyddu argaeledd cyllid ar gyfer busnesau llai.
Canfu’r gwerthusiad fod y gronfa’n cynorthwyo cwmnïau a allai fod wedi ei chael hi’n anodd diogelu buddsoddiad fel arall, a hynny wrth ddenu cyllid ychwanegol o’r sector preifat i economi Cymru.
Mae’r data mwyaf diweddar ar gyfer Mehefin 2026 yn dangos fod y Gronfa Buddsoddi i Gymru bellach wedi buddsoddi mwy na £34m ar draws 128 cytundeb.
Erbyn Medi 2025, roedd buddsoddiadau wedi cyrraedd busnesau ar draws holl ranbarthau Cymru, a De-ddwyrain Cymru oedd i gyfrif am 55% o’r holl fuddsoddiadau. Fodd bynnag, tynnodd y gwerthusiad sylw ar y sialens barhaus o sicrhau bod buddsoddiadau’n cyrraedd busnesau ar draws Cymru gyfan, ac yn arbennig busnesau yn y Canolbarth.
Mae’r canfyddiadau hyn yn rhan o werthusiad annibynnol SQW o raglen £1.6bn ehangach Cronfeydd Buddsoddi Cenhedloedd a Rhanbarthau Banc Busnes Prydain, sy’n cynnwys chwe chronfa ar draws Lloegr a’r Gwledydd Datganoledig. Erbyn Medi 2025, roedd y Gronfa wedi buddsoddi £294m trwy 951 o fuddsoddiadau mewn 877 o fusnesau ar draws y DU, gan ddenu £233m o fuddsoddiad gan y sector preifat a diogelu £0.79 o gyllid preifat am bob £1 a fuddsoddwyd.
Lansiwyd y Gronfa Buddsoddi i Gymru £130m ym mis Tachwedd 2023, a gwnaed y buddsoddiadau cyntaf yn Rhagfyr 2023. Darperir y gronfa trwy dri opsiwn cyllid: benthyciadau llai o £25,000 i £100,000, cyllid dyled o £100,000 i £2m, a buddsoddiadau ecwiti o hyd at £5m.
Yng Nghymru, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cynorthwyo busnesau ar draws amrywiaeth eang o sectorau. Adeiladu oedd y sector â’r gynrychiolaeth fwyaf, gyda 15 cwmni’n cael eu cynorthwyo, wedyn cyfanwerthu ac adwerthu (11 BBaCh) a gweithgynhyrchu (9 BBaCh).
Canfu’r gwerthusiad fod y busnesau sy’n cael cymorth trwy’r rhaglen eisoes yn cofnodi deilliannau cadarnhaol, gan gynnwys gwelliannau o ran cynhyrchiant, arloesi, sgiliau’r gweithlu, a thwf. Ffeindiodd dystiolaeth hefyd fod y rhaglen yn cynorthwyo busnesau i feithrin hyder wrth gyrchu cyllid allanol, ac yn cynorthwyo eu huchelgeisiau ar gyfer twf yn y dyfodol.
Play Revolution o Wrecsam yw un o’r busnesau sydd wedi elwa ar y Gronfa Buddsoddi i Gymru.
Sefydlwyd Play Revolution yn 2008, ac mae’r cwmni’n dylunio, yn cynhyrchu ac yn gosod systemau chwarae dan do ac awyr agored ar gyfer canolfannau hamdden, canolfannau hwyl i’r teulu, parciau gwyliau a gweithredwyr rhyngwladol. Mae’r cwmni wedi datblygu TAGactive hefyd, profiad gêm arena wedi ei hwyluso gan dechnoleg sy’n ymgorffori bandiau garddwrn adnabod sy’n defnyddio radioamledd, sgorio amser real a chwarae rhyngweithiol, sydd bellach yn gweithredu ar fwy na 75 safle ar draws y byd.
Derbyniodd y cwmni fuddsoddiad ecwiti gan Foresight trwy’r Gronfa Buddsoddi i Gymru i gynorthwyo’r cam nesaf yn ei dwf, gan gynnwys ehangu’r tîm, ehangu ei gapasiti gwerthu, cynyddu datblygiad cynnyrch ac arloesi, ac ehangu i farchnadoedd rhyngwladol.
Mae’r buddsoddiad yn cynorthwyo buddsoddiad parhaus y cwmni mewn datblygu sgiliau a chyflogaeth o safon uchel yn Wrecsam, gan gyfrannu at dwf economaidd lleol wrth i’r busnes dyfu.
Dywedodd Gwyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Play Revolution:
Rydyn ni’n hynod o gyffrous i fentro i’r cam nesaf yn nhwf Play Revolution Ltd a TAG Active Ltd. Mae buddsoddiad diweddar y Gronfa Buddsoddi i Gymru a Grŵp Foresight yn ardystiad cadarn i’n gweledigaeth ac yn creu cyfleoedd sylweddol i ehangu i farchnadoedd newydd. Llawn mor bwysig â hynny, mae’n dod â sefydlogrwydd hirdymor i’n tîm, ein partneriaid a’n cwsmeriaid wrth i ni barhau i dyfu’r busnes a darparu profiadau chwarae arloesol ym mhedwar ban y byd.
Adam Kelly, Rheolwr Gyfarwyddwr Cronfeydd Dyled a Rhanbarthol Banc Busnes Prydain:
Mae’r gwerthusiad annibynnol yma’n dangos y rôl bwysig y mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru’n ei chwarae wrth gynorthwyo busnesau llai ar draws Cymru.
Mae’r canfyddiadau’n dangos sut y mae’r gronfa’n helpu busnesau i gyrchu’r cyllid sydd ei angen arnynt i fuddsoddi, arloesi a thyfu, wrth helpu i ddenu buddsoddiad ychwanegol gan y sector preifat i economi Cymru.
Er ein bod ni’n dal i fod ar gyfnod cynnar, mae hi’n galonogol gweld tystiolaeth gadarn fod y gronfa’n cynorthwyo busnesau a allai ei chael hi’n anodd diogelu cyllid fel arall, ac yn helpu i greu’r amodau ar gyfer twf economaidd hirdymor.
Y chwe Chronfa Buddsoddi’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau a werthuswyd oedd y Gronfa Buddsoddi i Gymru, Cronfa Buddsoddi Pwerdy Gogledd Lloegr II, Cronfa Buddsoddi Injan Canolbarth Lloegr II, Cronfa Buddsoddi De-orllewin Lloegr, y Gronfa Buddsoddi i’r Alban, a’r Gronfa Buddsodd i Ogledd Iwerddon.
Further Information
If you are a journalist and have a media enquiry, please contact [email protected].
Notes to editors
Am Fanc Busnes Prydain
Banc Busnes Prydain yw banc datblygu economaidd Llywodraeth y DU. Wedi ei sefydlu ym mis Tachwedd 2014, ei genhadaeth yw gyrru twf economaidd trwy helpu busnesau llai i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, tyfu ac aros yn y DU. Ei gylch gorchwyl yw dylunio, cyflawni a rheoli rhaglenni cyrchu cyllid effeithlon ar gyfer busnesau llai ar draws y DU ar ran Llywodraeth y DU.
Mae rhaglenni craidd Banc Busnes Prydain yn cynorthwyo £23bnRead footnote text 1 o gyllid ar gyfer bron i 64,000Read footnote text 2 o fusnesau llai.
Cwmni cyfyngedig cyhoeddus sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru yw British Business Bank plc. Ei rif cofrestru yw 08616013 ac mae ei swyddfa gofrestredig yn Steel City House, West Street, Sheffield S1 2GQ. Banc datblygu yw hi sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth EF. Nid sefydliadau bancio yw British Business Bank plc a’i is-gwmnïau, ac nid ydynt yn gweithredu felly. Ac eithrio BBB Investment Sevices Limited, nid ydynt yn cael ei hawdurdodi na’u rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio darbodus na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae BBB Investment Services Limited yn cael ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae siart cyfreithiol cyflawn y grŵp ar gael yn british-business-bank.co.uk.
Cynhelir Cronfeydd Buddsoddi’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau gan Nations and Regions Investments Limited, is-gwmni sy’n llwyr yn eiddo i Fanc Busnes Prydain. Nid oes ganddynt awdurdod y PRA na’r FCA ac nid ydynt yn cael eu rheoleiddio ganddynt. Nid yw Banc Busnes Prydain a’r endidau sy’n is-gwmnïau iddo’n sefydliadau bancio, ac nid ydynt yn gweithredu felly. Gellir gweld siart strwythur cyfreithiol cyflawn ar gyfer British Business Bank plc a’i is-gwmnïau ar wefan Banc Busnes Prydain.
-
Return to footnote location
1
Ffigurau diwedd Mawrth 2025
-
Return to footnote location
2
Ffigurau diwedd Mawrth 2025, nid yw hyn yn cynnwys Benthyciadau Dechrau Busnes
Quick links
Latest news
-
Read more about Early evaluation shows South West Investment Fund is improving access to finance and supporting business growth across the South West Press release
13 October 2026 -
Read more about Early evaluation shows Midlands Engine Investment Fund II is improving access to finance and supporting business growth across the Midlands Partners and Programmes
13 October 2026 -
Read more about Early evaluation shows the Investment Fund for Scotland is improving access to finance and supporting business growth across Scotland Press release
13 October 2026